Am

Beth yw Coracle

Mae Coracle yn bartneriaeth dan arweiniad Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant a champws Wexford IT Carlow, Canolfan y Celfyddydau Wexford a Chynghorau Sir Gaerfyrddin a Wexford. Mae’r rhaglen hon o weithgareddau traws-ffiniol yn datblygu medrau lefel uwch er mwyn gwella cyflogadwyedd a chystadleurwydd ymhlith Ymarferwyr Creadigol yn Ne Ddwyrain Iwerddon a De Orllewin Cymru. Conglfaen y datblygiad hwn yw darparu cyrsiau gan bartneriaid addysg uwch a phellach.

Ar lefelau rhanbarthol a chenedlaethol mae cryfhau seilwaith y sector creadigol a diwylliannol yn allweddol i’w gynaliadwyedd. Mae darparu gradd MBA mewn Rheolaeth Celfyddydau Broffesiynol trwy bartneriaeth gan y ddau sefydliad addysg uwch yn mynd i’r afael â’r angen hwnnw trwy arfogi unigolion allweddol gyda’r medrau busnes i reoli elfennau o’r diwydiannau creadigol mewn ffordd strategol.

Ategir yr MBA gan nifer o gyrsiau byrion penodol ym meysydd busnes a galwedigaethol a gweithdai ymarferol. Mae hefyd yn rhannu gwybodaeth ac arfer gorau trwy brosiectau cyfnewid, cynlluniau interniaeth a chysylltiadau mentora anffurfiol ond dwys.

Rhan ganolog o’r prosiect yw’r wefan cyfryngau cymdeithasol hon sy’n cynnig cyfle unigryw gofod portffolio aml-gyfryngol i ymarferwyr creadigol. Thema gyffredinol Coracle yw gwyl. Mae gwyliau celfyddydau yn cynnig llwyfannau ar gyfer gwaith creadigol ac maent yn arddangos y datblygiad medrau a ddigwyddodd trwy’r buddsoddiad hwn yn y diwydiannau creadigol. Mae gwyliau celfyddydau hefyd yn cyfrannu at werth diwylliannol ychwanegol economïau’r rhanbarthau ac yn cael effaith uniongyrchol a chadarnhaol ar dwristiaeth ddiwylliannol a’r diwydiant lletygarwch.

Caiff Coracle ei rhan ariannu gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop (ERDF) trwy Raglen Iwerddon Cymru (INTERREG 4a)

Net Regs

Beth yw Interreg

Nod gyffredinol Rhaglen Iwerddon Cymru 2007-2013 yw mynd i’r afael â materion yn ymwneud ag arloesedd, mentergarwch, yr economi wybodaeth, newid hinsawdd ac adfywio cymunedol rhwng y ddwy wlad. Mae INTERREG, sy’n cynrychioli ‘inter-regional’, yn un o raglenni Cymuned yr UE sy’n anelu at gryfhau cydlyniad economaidd a chymdeithasol trwy hyrwyddo cydweithredu rhyngwladol a thraws-ffiniol.

Yr ardaloedd daearyddol sy’n cymryd rhan ym mhrosiect CORACLE yw:

Yn Iwerddon: Dulyn, Wicklow, Carlow, Wexford, Kilkenny, Waterford & De Tipperary;

Yng Nghymru: Ceredigion, Sir Gaerfyrddin & Sir Benfro.

Mae’r Môr Celtaidd yn gyswllt sy’n uno pob rhan o ardal y Rhaglen. Mae ei rôl yn brif bwynt mynediad i bobl a nwyddau yn teithio rhwng Iwerddon a gwledydd Prydain, ac ymlaen i farchnad cyfandir Ewrop, yn hollbwysig i lwyddiant y Rhaglen.

Mae Rhaglen Iwerddon Cymru yn ceisio datblygu’r rhanbarth traws ffiniol  ymhellach trwy:

  • Wella lles economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol cyffredinol ardal cydweithredu Iwerddon Cymru;
  • Sicrhau bod yr ardal yn datblygu mewn ffordd fwy cydlynol, cytbwys a chynaliadwy;
  • Cyfrannu at wneud y rhanbarth a’r UE yn fwy cystadleuol mewn byd sy’n ehangu.

Mae’r Rhaglen yn canolbwyntio ar gydweithredu er mwyn sicrhau datblygiad rhanbarthol integredig trwy strategaethau cyffredin. Mae’r Rhaglen yn chwilio am brosiectau sy’n ceisio mynd i’r afael ar y cyd â’r heriau a nodir mewn polisïau UE, Gwyddelig a Chymreig ac sy’n cael effaith gadarnhaol ar gymunedau lleol yn yr ardal draws ffiniol.

Pwy ydym ni

  • Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant

    Prifysgol newydd a grëwyd trwy uno’r ddau sefydliadaddysg uwch hynaf yng Nghymru - Prifysgol Cymru Llanbedr Pont Steffan a Choleg Prifysgol y Drindod Caerfyrddin.

  • Institute of Technology Carlow, Wexford Campus

    Lleolir Campws Wexford IT Carlow oddi ar Heol Summerhill, yn edrych allan dros Dref Wexford a’r môr. Mae’r campws yn cynnig cyrsiau llawn amser mewn Busnes, Celf a Cyfathrebu a Dylunio.

  • Wexford County Council

    Rôl Adran y Celfyddydau yng Nghyngor Sir Wexford yw cynnal a chefnogi’r gwaith o ddatblygu’r celfyddydau yn y sir.

  • Wexford Arts Centre

    Canolfan y Celfyddydau Wexford hithau’r Ganolfan Celfyddydau ranbarthol hynaf yn Iwerddon, bu’n darparu rhaglen gelfyddydol fywiog i’r gymuned a’r ymwelydd fel ei gilydd er 1974.

  • Cyngor Sir Caerfyrddin

    Mae Gwasanaethau Hamdden Cyngor Sir Caerfyrddin yn cynnwys Gwasanaeth Datblygu’r Celfyddydau sy’n rheoli’r celfyddydau a theatrau yn y sir gan gynnwys y ddarpariaeth uniongyrchol mewn theatrau, orielau a datblygu’r celfyddydau yn gyffredinol.