Amodau a Thelerau
Ymwadiad CORACLE
Mae’r Ymwadiad hwn yn berthnasol i bob Gwefan a ffeiliau Mewnrwyd a gyhoeddir gan CORACLE & bartneriaid, neu gan fudiadau sy’n gysylltiedig â CORACLE & bartneriaid, sy’n defnyddio amrywiadau o enwau peuoedd CORACLE yn yr URL (gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i *.coracle.eu.com/*,
Er y cymerwyd pob gofal rhesymol gan CORACLE & bartneriaid wrth ddarparu deunydd ar ffurf electronaidd, ni all CORACLE fod yn gyfrifol am unrhyw gamgymeriadau, ansawdd na chywirdeb gwybodaeth a deunyddiau eraill a ddarperir ar Wefan(nau) a/neu Fewnrwyd CORACLE.
Mae CORACLE yn cadw’r hawl i wneud newidiadau i’r Wefan(nau) a/neu’r Fewnrwyd heb unrhyw rybudd.
Nid yw deunydd a ddarperir ar Wefan(nau) a/neu Fewnrwyd CORACLE yn creu sail ar gyfer unrhyw gontract gyda darllenwyr a phobl sy’n ei ddefnyddio. Ni fydd CORACLE o dan unrhyw amgylchiadau yn gyfrifol am golled neu ddifrod a ddioddefir gan unrhyw berson, yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol, sy’n defnyddio neu’n dibynnu ar unrhyw ddeunydd a ddarperir ar Wefan(nau) a/neu Fewnrwyd CORACLE.
Nid yw CORACLE yn gyfrifol am gynnwys unrhyw wefannau rhyngrwyd allanol y gallai gysylltu â nhw, eu cyflwyniad nac unrhyw gysylltiadau sydd ynddynt, gan gynnwys tudalennau allanol sy’n cysylltu â Gwefan(nau) a/neu Fewnrwyd CORACLE, neu rai gaiff eu creu gan fudiad arall yn gysylltiedig neu heb fod yn gysylltiedig â CORACLE & bartneriaid. Ni all CORACLE & bartneriaid warantu y bydd y cysylltiadau hyn ar gael drwy’r amser.
Datganiad Hawlfraint CORACLE
Oni ddywedir yn wahanol, mae pob deunydd a gyhoeddir ar Wefan(nau) a/neu Fewnrwyd CORACLE yn Hawlfraint © CORACLE. Neilltuir pob hawl. Nid yw hyn yn cynnwys unrhyw ddeunydd ar y wefan hon y dangosir ei fod yn hawlfraint trydydd parti. Rhaid cael awdurdod i atgynhyrchu deunydd o’r fath gan y deiliaid hawlfraint dan sylw. Dylai trydydd partïon ddangos yn glir fod ganddynt hawlfraint ar eu deunydd eu hunain.
Rheolau defnydd a defnydd derbyniol
Trwy ddanfon cynnwys i wefan CORACLE rydych yn cytuno cadw at y rheolau canlynol. Pwrpas y rheolau hyn yw sicrhau bod cyfranwyr a defnyddwyr yn teimlo’n gyfforddus a chyfartal yn yr amgylchedd ar-lein.
- Parchwch bobl eraill. Gall sylwadau fod yn fywiog ond dylai cymryd rhan fod yn brofiad cadarnhaol i bawb. Dylai cyfraniadau fod yn gwrtais a chwaethus, ac ni ddylent fod yn faleisus na cheisio tramgwyddo. Ni ddylid gwneud unrhyw gyfeiriad at bersonoliaeth cyfranwyr na defnyddwyr eraill ac ni ddylid ymosod ar gymeriad unrhyw unigolyn.
- Cadwch at y mater dan sylw. Dylai eich sylw fod o fewn cwmpas y mater/gwaith celf dan sylw.
- Peidiwch annog casineb ar sail hil, crefydd, rhywedd, cenedligrwydd, rhywioldeb neu nodwedd bersonol arall. Peidiwch rhegi, defnyddio iaith casineb na gwneud sylwadau ffiaidd neu ddi-chwaeth.
- Peidiwch torri’r gyfraith. Mae hyn yn cynnwys enllib, cydoddef gweithgarwch anghyfreithlon a dirmyg llys (sylwadau allai effeithio canlyniad achos llys fydd yn digwydd cyn bo hir). Dylech gofio eich bod yn gyfreithiol gyfrifol am yr hyn a ysgrifennwch. Trwy gyflwyno sylw rydych yn addo indemneiddio CORACLE rhag unrhyw gyfrifoldeb yn deillio o’i gyhoeddi.
- Peidiwch cofnodi gwybodaeth bersonol - cyfeiriadau, rhifau ffôn, cyfeiriadau e-bost neu fanylion cyswllt ar-lein eraill ar eich cyfer chi neu unigolion eraill.
- Peidiwch gwneud unrhyw "spamio".
- Peidiwch hysbysebu. Gallwch gyfeirio at gynhyrchion a gwasanaethau perthnasol ar yr amod eu bod yn cefnogi eich sylw. Ni chaniateir unrhyw hysbysebu neu farchnata ac eithrio pan mae ar gyfer digwyddiad, cyhoeddiad neu eitem debyg sy’n uniongyrchol berthnasol i’r mater dan sylw. Croesewir gwybodaeth am ddod o hyd i wybodaeth ac arbenigedd a’u rhannu, ond o fewn y drafodaeth benodol dan sylw. Rhaid i bob cyswllt a ddarperir fod yn addas ar gyfer cynulleidfa gyffredinol, ac ni ddylent gysylltu’r wefan â deunydd sy’n ffiaidd, difenwol neu sy’n annog casineb neu drais.
- Peidiwch personoli na honni ar gam eich bod yn cynrychioli person neu fudiad. Peidiwch camarwain defnyddwyr eraill trwy gamddefnyddio ein trefniadau cofrestru.
- Peidiwch cofnodi mewn unrhyw iaith heblaw am Saesneg neu Gymraeg.
- Byddwch yn gryno – mae defnyddwyr eraill yn fwy tebyg o ddarllen eich cyfraniad os yw’n gryno.
- Rydym yn annog trafodaeth agored, fywiog ond mater i CORACLE yw penderfynu cyhoeddi cynnwys a dderbynnir trwy’r wefan hon. Ni fydd cynnwys sy’n torri unrhyw un o’r rheolau uchod yn cael ei gyhoeddi.
Os yw cyfranogydd yn torri’r rheolau mewn ffordd ddifrifol neu dro ar ôl tro, bydd eu cyfrif defnyddiwr yn cael ei atal a chaiff eu holl sylwadau eu diddymu.